Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

Manteision gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys

Mae llawer o staff y GIG yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oherwydd y manteision mae’n eu cynnig, p’un a yw hynny’n golygu gwella eu sgiliau, cydbwyso bywyd a gwaith yn well neu ennill arian ychwanegol. Dysgwch fwy am fanteision gweithio ym maes gofal brys a’r rhesymau pam mae ein staff GIG yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys.

Amrywiaeth y gwaith

Mae’r math o waith y mae angen i staff y GIG ei wneud ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn amrywio. O feddygon teulu a nyrsys, i yrwyr ambiwlans ac atebwyr galwadau, mae gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn caniatáu i chi weithio gydag amrywiaeth o dimau ac mewn gwahanol fathau o rolau o fewn y GIG, na fyddech yn gweithio ynddynt fel arfer wrth weithio yn ystod oriau arferol. Hefyd, mae staff y GIG yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oherwydd nid oes angen cwblhau gwaith papur ar ddiwedd y shifft.

Amgylchedd cyfforddus

Mae llawer o’n staff GIG yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oherwydd yr amgylchedd gwaith cyfeillgar a chydweithredol. Rydym yn sicrhau bod cymorth ar gael gan aelodau eraill y tîm 24/7, i sicrhau na fyddwch chi byth ar eich pen eich hun. Er enghraifft, rydym yn sicrhau bod gyrrwr ar gael o hyd i fynd â’n meddygon teulu i ymweliadau cartref. Mae llai o bwysau hefyd mewn Gofal Sylfaenol Brys, gan fod ein staff, ar gyfartaledd, yn gweld cleifion bob 12 i 15 munud (er y gall hyn amrywio yn ôl y Bwrdd Iechyd, adeg y dydd a'r galw ar lwyth gwaith), ac nid oes gwaith papur i’w lenwi ar ddiwedd y dydd, nac apwyntiadau dilynol i’w trefnu gyda chleifion.

Boddhaus

Mae gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn heriol ond yn foddhaus. Pan ofynnwch i staff y GIG pam maen nhw’n dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, bydd llawer ohonynt yn dweud eu bod yn mwynhau gweithio yno gan eu bod yn darparu gofal brys i gleifion pan mae arnynt ei angen fwyaf.

Gweithio hyblyg

Mae ein horiau gwaith hyblyg yn eich helpu i ganfod cydbwysedd iach rhwng eich bywyd a’ch gwaith. Mae gweithio ym maes Gofal Sylfaenol brys yn caniatáu i staff sydd â phlant ifanc, neu ymrwymiadau eraill, drefnu eu horiau gwaith a’u lleoliad o gwmpas eu trefniadau gofal plant, a rhwymedigaethau eraill a allai eu hatal rhag gweithio yn ystod oriau arferol. Hefyd, rydym yn cynnig cyfle i weithio o bell trwy waith brysbennu ffôn.

Incwm ychwanegol

Un o fanteision gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys gyda’r GIG yw’r cyfle i ennill cyflog ychwanegol. Rydym yn talu am ychwanegiadau ' r GIG i wobrwyo staff sy’n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, sy’n golygu bod modd i chi ennill incwm ychwanegol ar ben eich cyflog o ddydd i ddydd.

Cyfleoedd dysgu a datblygu

Mae gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn darparu llawer o gyfleoedd i barhau i ddysgu a datblygu eich gyrfa. P’un a ydych yn nyrs, yn fferyllydd neu’n weithiwr cymorth gofal iechyd, cewch gyfle i ehangu eich portffolio gwaith trwy ymarfer mewn gwahanol feysydd. Hefyd, byddwn yn darparu unrhyw hyfforddiant ychwanegol angenrheidiol i’ch helpu yn eich rôl ym maes Gofal Sylfaenol Brys.  

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences