Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

Am Gofal Sylfaenol Brys

Mae ein staff Gofal Sylfaenol Brys GIG yn darparu gwybodaeth a chyngor am ofal iechyd a mynediad i wasanaethau gofal sylfaenol brys i gleifion sydd ag anghenion brys, ond heb fod yn fater argyfyngus.

Mae gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys y GIG ar waith o 18:30 ar ddyddiau’r wythnos tan 8.00 y bore wedyn, ac ar benwythnosau a gwyliau banc. Y Byrddau Iechyd lleol sy’n gyfrifol am y gwasanaethau. Mae’r gwasanaethau wedi’u lleoli yn ardaloedd y Byrddau Iechyd.

Sut mae Gofal Sylfaenol Brys y GIG yn gweithio?

Mae amrywiaeth o staff yn gweithio gyda’i gilydd fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n darparu’r gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys ar gyfer eu cymunedau.

Mae ein timau amlddisgyblaethol yn cynnwys meddygon teulu, nyrsys, atebwyr galwadau, gyrwyr, fferyllwyr, parafeddygon, gweithwyr cymorth gofal iechyd a derbynyddion i sicrhau y rhoddir sylw i gleifion ag anghenion gofal brys yn brydlon.

Yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau, caiff galwadau cleifion eu rheoli gan atebwyr galwadau hyfforddedig i ddechrau, ac yna gellir eu trosglwyddo i amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i gael cyngor/hunanofal/presgripsiwn neu ofal wyneb yn wyneb.

Mae gan lawer o’n staff Gofal Sylfaenol Brys rolau yn y GIG ac, felly, mae ganddynt brofiad helaeth er mwyn ymgymryd â’r rôl. Maen nhw wedi dweud eu bod yn mwynhau gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys er mwyn dysgu a datblygu sgiliau newydd.

Os hoffech ddatblygu sgiliau newydd, neu os hoffech ennill incwm ychwanegol, neu os ydych chi’n ystyried newid gyrfa, gweler ein rhestr o swyddi gwag sydd ar gael ym maes Gofal Sylfaenol Brys.

Pam gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys?

Gall gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys y GIG fod yn newid braf o gymharu â gwaith oriau arferol.

Nid yn unig y mae gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn rhoi cyfle i ennill incwm ychwanegol a datblygu eich sgiliau mewn lleoliad unigryw, mae’n rhoi cyfle i fod yn rhan o dîm agos. Hefyd, mae’n rhoi cyfle i weithio mewn modd hyblyg a gwella’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.  

Mae llawer o’n staff yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys gan ei fod yn cynnig oriau hyblyg.

Mae Gofal Sylfaenol Brys yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, rhieni sydd â chyfrifoldebau gofal plant a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddiweddaru eu sgiliau.

Gweler ein rhestr o fanteision a rhesymau dros weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences