Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

Datganiad hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gofal Sylfaenol Brys (OOH)

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i fyny i 300% heb i'r testun gorlifo oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenwr sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Ni allwch addasu uchder y llinell na bylchiad y testun
  • Efallai na fydd rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin

Beth i'w wneud os na allwch gyrchu rhannau o'r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu Braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch mewn 30 diwrnod gwaith ar y mwyaf.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: heiw.people@wales.nhs.uk.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu drwy ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy ' n D/fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW) yn ymrwymedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) o Reoliadau Hygyrchedd 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA.

Sut y profwyd y wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 23 Medi 2019. Cynhaliwyd y prawf gan ein tîm Digidol yn AaGIC.

Penderfynon ni brofi'r cyfan o'r wefan hon gan ddefnyddio WAVE ac AlumniOnline Web Services.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Hyd eithaf ein gwybodaeth mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon WCAG 2.1 AA. Ein bwriad yw parhau i wella hygyrchedd gydag archwiliadau allanol rheolaidd.

Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Medi 2019. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Medi 2019.

 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences