Mae yna rai mythau ynglŷn â gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys a allai beri i chi oedi cyn mentro arni.
Dyma herio’r camsyniadau mwyaf cyffredin ynglŷn â gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, er mwyn eich helpu i ddeall y ffeithiau a’r manteision sydd ynghlwm â gweithio yno.
Rydym yn sicrhau bod ein staff yn cael eu cynorthwyo’n llawn yn eu rolau Gofal Sylfaenol Brys, ac nid ydynt yn gweithio ar eu pennau eu hunain, lle bynnag bo’n bosibl. Caiff yr holl aelodau staff eu hamgylchynu gan dîm ac mae ganddynt fynediad at arweinydd tîm profiadol penodedig a all roi cyngor ar feysydd sy’n peri anhawster yn ystod eu shifft.
Mae llawer o wahanol gyfleoedd gyrfa ar gael ym maes Gofal Sylfaenol Brys. P’un a yw hynny’n golygu cael dyrchafiad i fod yn arweinydd tîm neu weithio tuag at rôl fel rheolwr, mae gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn rhoi cyfle i weithio gyda disgyblaethau eraill yn y GIG – a dysgu ganddynt.
Mae pob un o’r Byrddau Iechyd yn ymrwymo i ddatblygu fframwaith gyrfa a phecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer gofal sylfaenol brys, a fydd ar gael i staff clinigol ar bob lefel.
Mae IR 35 yn cyfeirio at staff nad ydynt ar y gyflogres, a’i nod yw sicrhau bod unigolion fyddai’n gweithio fel cyflogeion yn talu’r un trethi cyflogaeth â chyflogeion arferol, ni waeth pa strwythur maen nhw’n gweithio ynddynt.
Os yw staff y GIG sy’n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn gyflogeion y GIG, ni fydd IR 35 yn berthnasol iddyn nhw, gan eu bod yn cael eu tâl yn ôl trwy gyflogres y GIG.
Mae’r rhan fwyaf o staff yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys gan fod y shifftiau sydd ar gael yn hyblyg ac yn amrywiol. Maen nhw’n gallu dewis eu shifftiau a gweithio o gwmpas eu gofynion gofal plant. Hefyd, bydd cyfleoedd i rai clinigwyr weithio o bell. Mae gweithio gartref yn bennaf a chyfathrebu â’r gwasanaeth a chleifion drwy e-bost a dros y ffôn yn gallu bod yn opsiwn deniadol sy’n golygu nad oes angen teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith.
Bydd modd i chi ddefnyddio mwyafrif y sgiliau rydych yn eu hennill yn ystod eich rôl o ddydd-i-ddydd wrth weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys. Mae angen staff sydd ag amrywiaeth o sgiliau, yn glinigol ai peidio. Os nad ydych chi’n siŵr a oes gennych chi’r sgiliau angenrheidiol, dewch i siarad â ni.
Mae ffiniau clir yn bodoli ym maes Gofal Sylfaenol Brys. Disgwylir i staff Gofal Sylfaenol Brys y GIG weithio’r oriau maen nhw wedi’u dewis yn unig. Os byddant yn dewis gweithio oriau goramser, bydd hyn yn cael ei dalu fesul awr. Hefyd, nid oes baich ychwanegol o ran gwaith papur i’w gwblhau ar ddiwedd y dydd, nac apwyntiadau dilynol i’w trefnu.
Yn sgil natur acíwt Gofal Sylfaenol Brys, disgwylir i feddygon teulu ymdrin ag un ymgynghoriad brys ar y tro ac ar gyfartaledd, yn cael 12 i 15 munud y claf (yn dibynnu ar lwyth gwaith) yn ystod un sifft, lle byddant yn penderfynu naill ai anfon y claf at yr adran ddamweiniau ac achosion brys, rhoi cyngor iddo reoli ei hun neu ei atgyfeirio i weld meddyg teulu’r claf yn ystod oriau arferol.