Chris Hancock
Gweithiwr cymorth gofal iechyd
Dw i mewn ar gyfer y gwelliannau cyflog.
Dw i wedi bod yn gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys ers chwe blynedd. Cyn hyn, roeddwn i yn y llynges am 22 blynedd. Bellach, rwy’n gweithio fel gweithiwr cymorth gofal iechyd ac rwy’n gyfrifol am sawl rôl. Er i mi gael fy hyfforddi fel gyrrwr gofal iechyd yn mynd â meddygon teulu a pharafeddygon i ymweld â phobl yn eu cartrefi, rwyf yn gweithio yn nerbynfa’r ganolfan driniaeth hefyd, ac yn ateb galwadau o’r llinell broffesiynol, os oes angen.
Y prif reswm dros benderfynu gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oedd yr hyblygrwydd. Roeddwn i’n gallu gweithio o amgylch gofalu am fy mhlant a mynd ar drywydd prosiectau personol a phroffesiynol eraill hefyd, ac rwy’n dal i elwa ohono heddiw. Cefais fy ysgogi gan y syniad y byddwn i’n gwneud rhywbeth gwahanol, gan wneud gwahaniaeth. Hefyd, mae yna resymau ariannol, gan fod y tâl yn well na gwaith yn ystod oriau arferol.
