Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

Claire Jones case study

Claire Jones

Atebwr galwadau a derbynnydd

Dw i mewn rwy'n teimlo fy mod i'n gwneud gwahaniaeth.

Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys ers 19 mlynedd, sy’n profi faint rwy’n ei fwynhau. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel atebwr galwadau a derbynnydd ond rwyf wedi gweithio fel anfonwr, hefyd.

Dechreuais weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oherwydd roeddwn yn astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith ac roedd gennyf bump o blant bach ar y pryd, felly roedd yr oriau hyblyg yn fy siwtio. Rwy’n dal i fwynhau hyblygrwydd y swydd, ond rwyf wedi parhau i weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oherwydd y boddhad rwy’n ei gael o helpu cleifion y mae angen ein help arnynt. Mae diwylliant y tîm yn wych hefyd – mae gan bob un ohonom ein sgiliau arbennig rydym yn eu defnyddio i wneud gwahaniaeth.

I unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys - ewch amdani. Mae’n wych i bobl ofalgar a chydymdeimladol, a rhai sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae’n gyfle gwych i bellhau eich gyrfa yn y GIG, hefyd.

Claire Jones Derbynnydd case study

Nôl i astudiaethau achos

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences