Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

David Richards case study

David Richards

Uwch ymarferydd parafeddygol

Dw i mewn am y fentoriaeth wych.

Rwyf wedi bod yn gweithio i Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers 16 mlynedd fel parafeddyg ond, ar ôl ennill fy MSc mewn Ymarfer Uwch, rwyf bellach yn gweithio fel Uwch Ymarferydd Parafeddygol. Rwy’n lwcus i fod yn rhan o dîm o 10 o Uwch Ymarferwyr Parafeddygol, mewn cynllun peilot dwy flynedd rhwng Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn cynorthwyo’r gwasanaeth meddyg teulu tu allan i oriau. Fel Uwch Ymarferydd Parafeddygol yn y model, rwy’n mynd i ymweld â chleifion yn eu cartrefi yn bennaf, ond rwyf hefyd yn gweld cleifion priodol yn y canolfannau triniaeth, ac rydym yn datblygu sgiliau rhoi cyngor dros y ffôn. Mae’r cyfan yn cael ei gynorthwyo gan fentoriaeth wych gan y meddygon teulu.

Y tro cyntaf i mi glywed am y cyfleoedd ym maes Gofal Sylfaenol Brys oedd gan feddygon teulu eraill wrth astudio ar gyfer fy ngradd Meistr. Roeddwn i eisiau bod yn Uwch Ymarferydd Parafeddygol, ac ystyriais y byddai Gofal Sylfaenol Brys yn gyfle da i symud ymlaen yn fy ngyrfa ac i weithio gyda chlinigwyr sydd â phrofiadau a chefndiroedd amrywiol. Ac roeddwn i’n iawn - mae’r fentoriaeth a’r cyfleoedd wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’r perthnasoedd rwyf wedi’u meithrin gyda chlinigwyr eraill ym maes Gofal Sylfaenol Brys, a’r cyfle i gael fy mentora ganddynt, wedi fy helpu yn fy swydd bob dydd. Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r tîm.

Mae bod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol yn wych, ac rwy’n mwynhau amrywiaeth y gwaith a’r teimlad o wneud gwir wahaniaeth i gleifion y mae angen gofal brys arnynt.

Dave Richards, Parafeddyg - astudiaeth achos

Nôl i astudiaethau achos

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences