Kate Macnamara
Uwch-fferyllydd 111
Dw i mewn i ddatblygu sgiliau newydd.
Penderfynais weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oherwydd roeddwn i eisiau cyfle newydd, ac roedd yn faes nad oeddwn i wedi gweithio ynddo erioed. Roeddwn i’n gwybod y byddai’n rhoi cyfle i fi ddatblygu fy ngyrfa a gallu ymdrin ag achosion cleifion nad oeddwn i wedi cael profiad ohonynt erioed o’r blaen.
Rwy’n falch iawn y manteisiais ar y cyfle i weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, gan fy mod i wedi datblygu llawer o sgiliau newydd, ac rwyf wedi dysgu mwy am fy hun a fy ngalluoedd. Yn ystod y dydd, rwy’n fferyllydd amser llawn mewn practis meddyg teulu, yna rwy’n gweithio fel uwch-fferyllydd Gofal Sylfaenol Brys, lle rwy’n helpu i hyfforddi a rheoli’r fferyllwyr sy’n gweithio yn y maes.
Ym maes Gofal Sylfaenol Brys, rwy’n teimlo fel aelod gwerthfawr o’r tîm, gan fod pob un ohonom yn cael ein hystyried yr un mor bwysig â’n gilydd, ni waeth beth yw teitl ein swydd. Hefyd, rwyf wedi gallu hyfforddi a datblygu sgiliau newydd fel brysbennu dros y ffôn, rhoi ymgynghoriadau a thrin cleifion o wahanol fathau, sydd wedi rhoi hwb i’m hyder wrth weithio fel fferyllydd yn fy swydd o ddydd i ddydd.