Dr Keith Hawkins
Meddyg teulu 111
Dw i mewn oherwydd y gymysgedd o gleifion.
Rwy’n bartner meddyg teulu amser llawn mewn practis, ond rwyf hefyd yn gweithio rhan-amser ym maes Gofal Sylfaenol Brys. Yn bennaf, rwy’n feddyg teulu 111, sy’n golygu fy mod yn brysbennu dros y ffôn ac yn asesu’r galwadau fel arfer. Rwy’n gyfrifol am reoli llif y cleifion a chysylltu Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaethau Gofal Sylfaenol Brys. Rwy’n ymdrin â rhai o’r cleifion mwyaf cymhleth dros y ffôn, ac yn goruchwylio’r fferyllwyr clinigol a’r nyrsys yn y rhanbarth.
Pam ydw i’n gweithio yn y gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys? Yn fy marn i, nid yw rôl y meddyg teulu’n dod i ben pan fydd yr oriau arferol yn dod i ben. Fel meddygon teulu, mae gennym gyfrifoldeb i ofalu am ein cleifion ac i amddiffyn a datblygu ein gwasanaethau. Hefyd, rwy’n mwynhau gweithio yng Ngofal Sylfaenol Brys gan fy mod yn ymdrin â chymysgedd o gleifion brys ac acíwt. Mae gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol yn gyfle da iawn i rwydweithio yn y gymuned meddygon teulu a gweithio gyda gwahanol broffesiynau. Mae hyblygrwydd y gwaith a’r gallu i ennill cyflog ar ben enillion partneriaeth yn wych hefyd.