Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

Dr Mohan De Silva case study

Dr Mohan De Silva

Clinigydd dros nos

Dw i mewn oherwydd y tîm gwych.

Dechreuais weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys pan roedd y maes yn ei gamau cynnar, a chyn iddo gael ei gomisiynu gan y byrddau iechyd. Roeddwn i’n rhan o gydweithrediad lleol fyddai’n dod at ei gilydd i weithio gyda’r nos mewn practisau meddygon teulu lleol yn yr ardal, ac yn ymweld â phobl yn eu cartrefi. Pymtheg mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, ond mae gennyf bractis meddyg teulu yn Llanymddyfri hefyd, lle rwy’n treulio deuddydd yr wythnos.  

Y prif reswm rwy’n mwynhau gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yw’r hyblygrwydd. Rwy’n gallu gweithio pan rwyf eisiau, ac mae’r shifftiau’n addas i fi, sy’n golygu bod y nghydbwysedd rhwng fy mywyd a’m gwaith yn well. Hefyd, rwy’n mwynhau gweld amrywiaeth eang o broblemau meddygol.

Mohan De Silva, Clinigydd dros nos - astudiaeth achos

Nôl i astudiaethau achos

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences