Dr Saloni Jain
Meddyg teulu llawrydd
Dw i mewn am yr hyblygrwydd o ran gofal plant.
Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys ers 10 mlynedd fel meddyg teulu llawrydd, ac rwyf wedi cael fy mhenodi’n ddiweddar fel arweinydd clinigol ar gyfer llywodraethu clinigol.
Y tro cyntaf i fi glywed am y gwasanaeth oedd wrth hyfforddi i fod yn gofrestrydd mewn practis cyffredinol. Yna, gweithiais mewn practisau ar draws y rhanbarth cyn cael fy mhenodi’n bartner rhan-amser mewn meddygfa. Penderfynais weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oherwydd roedd yn golygu y gallwn ofalu am fy mhlant tra bod fy ngŵr yn gweithio mewn swydd amser llawn. Roeddwn i’n gallu dewis fy oriau a pheidio gorfod mynd ag unrhyw waith gartref.
Os ydych chi eisiau swydd sy'n hyblyg a gallwch ddewis eich oriau sefydlog, un sy'n talu'n dda, a lle nad oes rhaid i chi fynd ag unrhyw waith gweinyddol adref gyda chi ar ddiwedd eich shifft, mae’n werth ystyried rôl ym maes Gofal Sylfaenol Brys. Mae’n newid braf o waith yn ystod oriau arferol, gan fod cymysgedd o gleifion i’w gweld o hyd, a chewch gyfle i weithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill na fyddech yn gweithio gyda nhw fel arfer yn ystod eich oriau arferol. Mae’n rhoi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, gan fy mod yn gallu brysbennu dros y ffôn gartref hefyd.