Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

Simon Wellington case study

Simon Wellington

Atebwr galwadau

Dw i mewn gan fod pob dydd yn her wahanol.

Cefais fy ysgogi i weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys oherwydd roeddwn i eisiau gwneud swydd lle gallwn helpu pobl. Roeddwn i’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth ond cefais fy nenu i weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys gan yr oriau hyblyg, ac roedd yn gweithio o gwmpas fy ffordd o fyw (ac mae’n parhau i wneud hynny).   

Nid wyf erioed wedi gweithio yn rhywle gyda chymaint o gymorth ac ymdeimlad gwych o fod yn rhan o dîm – rydyn ni wir yn gweithio fel tîm. Wrth gwrs, mae’r estyniadau tâl ar gyfer gweithio gyda’r nosweithiau a dros y penwythnos yn ddelfrydol hefyd, sy’n golygu y gallaf weithio llai o oriau am fwy o dâl.

Os ydych chi’n ystyried gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys - ymgeisiwch. Does dim angen cefndir meddygol arnoch i fod yn atebwr galwadau, gan eu bod yn rhoi cwrs hyfforddi dwys chwe wythnos o hyd i chi cyn dechrau. Rwy’n mwynhau gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys helpu pobl a gwybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth yn foddhaus dros ben.

Simon Wellington, Atebwr Galwadau - astudiaeth achos

Nôl i astudiaethau achos

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences