Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

Sue Tapper case study

Sue Tapper

Anfonwr / derbynnydd

Dw i mewn am yr arian ychwanegol.

Rwy’n gweithio fel anfonwr/derbynnydd rhan-amser yn y gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys. Mae fy rôl yn cynnwys cyfarch cleifion a sicrhau bod gan y meddygon bopeth y mae arnynt eu hangen i wneud eu gwaith yn iawn yn ystod eu shifft. Mae fy rôl fel anfonwr yn golygu meddwl mewn ffordd strategol trwy anfon ceir ac ymweliadau at y cleifion cywir i sicrhau eu bod yn synhwyrol ac yn rhesymegol i bawb.  

Mae gweithio yn y gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys yn gwbl wahanol i weithio yn ystod oriau arferol. Rwy’n mwynhau’r cyswllt â chleifion wrth weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, ac rwyf wrth fy modd yn gwybod y gallaf adael fy ngwaith wrth y drws ac nad oes gwaith gweinyddol i’w wneud gartref. Mae gennym ni dîm gwych – mae pawb yn cyd-dynnu’n dda ac yn gefn i’w gilydd ac yn rhoi help llaw, lle bo’n bosibl.  

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes Gofal Sylfaenol Brys, ewch amdani! Mae’r oriau’n wych ac mae’r cyflog yn dda. Dechreuais weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys i helpu fy merch yn y brifysgol i ddechrau, ond rwy’n dal i weithio yno oherwydd y diwylliant gwaith gwych, ac mae’n helpu i dalu am fy ngwyliau a’m bagiau, hefyd!

Sue Tapper, Anfonwr - astudiaeth achos

Nôl i astudiaethau achos

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences