O 6:30pm yn ystod yr wythnos, tan 8:00am y bore canlynol, mae ein timau amlddisgyblaeth o feddygon teulu, nyrsys, gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig ag iechyd, fferyllwyr, parafeddygon, trafodwyr galwadau, gyrwyr/gweithwyr cymorth gofal iechyd, a derbynyddion, yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gwasanaeth ar gyfer eu cymuned.
Pam gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys?
Mae nifer o resymau pam mae staff y GIG yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys. Nid yn unig y mae gyrfa ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn cynnig gweithio hyblyg ac arian ychwanegol, mae hefyd yn darparu bodlonrwydd yn eich swydd a chydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd. Hefyd, mae llawer o gyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd i gefnogi eich gyrfa yn y GIG.
Gallwch ddarganfod mwy ynghylch pam mae ein staff yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys trwy wylio ein fideo. Fel arall, gallwch ddysgu mwy am fuddion gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yma.
Gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys
Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys? Rydym ni’n recriwtio ar gyfer nifer o rolau ar draws ein byrddau iechyd yng Nghymru, sy’n gweithio’n agos â’i gilydd i ddarparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol Brys yn eu cymunedau.
Os hoffech ymuno â’n timau amlddisgyblaeth, gallwch ddysgu mwy am y cyfleoedd presennol sydd ar gael ym maes Gofal Sylfaenol Brys yma.
Sesiynau blasu
Os ydych chi’n Feddyg Teulu neu’n Weithiwr Iechyd Proffesiynol Perthynol sydd â diddordeb mewn Gofal Sylfaenol Brys, cliciwch ar y ddolen i ddarganfod sut y gallwch chi flasu blas o Allan o Oriau.