Skip to main content
(press enter)

Gofal Sylfaenol Brys (TAIO)

Betsi Cadwaladr yn cynnal Cynhadledd Gofal Sylfaenol Brys cyntaf

Betsi Cadwaladr yn cynnal Cynhadledd Gofal Sylfaenol Brys cyntaf

6 Rhagfyr 2019

Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei Gynhadledd Gofal Sylfaenol Brys gyntaf ar ddydd Llun 2 Rhagfyr.   Yr oedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac yr oedd amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a gwasanaethau Amlddisgyblaeth yn bresennol yno, a oedd yn eu galluogi i gymryd y camau cyntaf i ofal integredig, rhwydweithio a meithrin perthynas er mwyn gwella diogelwch cleifion a phrofiad y claf.

Cafodd staff a fynychodd hefyd rai pwyntiau DPP gyda gweithdai ar sgoriau NEWS, Sepsis, iechyd meddwl, gofal lliniarol a gofal brys integredig.

Dywedodd Kirsty Ditcher, Uwch Nyrs, Gwasanaeth Meddygon Teulu Allan o Oriau BIPBC: "Roeddem yn ddiolchgar iawn i siaradwyr gwadd fel Richard Bowen ac Alex Gibbins o dîm 111, Gwella Iechyd Cymru. Ein nod yw bod hyn yn dod yn ddigwyddiad blynyddol ac fe'n hanogir i wneud hynny ar ffurf yr adborth eithriadol a gawsom gan y rhai a oedd yn bresennol. “.

Urgent Primary Care Conference

Back to News stories

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences