Os ydych chi eisiau ehangu eich gyrfa yn y GIG, archwiliwch y rolau isod sydd ar gael ym maes Gofal Sylfaenol Brys.
Cyfarwyddwr Clinigol
Mae’r Cyfarwyddwr Clinigol yn gweithio ar lefel strategol i hyrwyddo a gwella gwasanaethau Gofal Sylfaenol Brys. Byddant yn ymgymryd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y timau clinigol ac anghlinigol yn eu rhanbarth/bwrdd iechyd.
Bydd y Cyfarwyddwr Clinigol hefyd yn gweithio’n glinigol ar lefel y Cyffredinolwr Arbenigol/Rheolydd Llif (Flight Controller).
Cyffredinolwr Arbenigol/Rheolydd Llif
Mae’r Cyffredinolwr Arbenigol/Rheolydd Llif yn monitro a rheoli llif cleifion ar draws rhanbarth. Mae’n arweinydd clinigol ac yn ffynhonnell cymorth ar gyfer clinigwyr sy’n gweithio yn rhwydwaith 111/GSB.
Gallant weithio ar lefel meddyg teulu/GSB (8) yn glinigol, a chael cymhwysedd i asesu, rhoi diagnosis a thrin o bell, os yw’n briodol.
Meddyg Teulu
Mae’r meddyg teulu yn aelod allweddol o’r tîm Gofal Sylfaenol Brys, ac mae’n darparu arweinyddiaeth glinigol ar gyfer tîm amlddisgyblaeth.
Mae’r meddyg teulu yn gyfrifol am frysbennu dros y ffôn i gleifion sydd wedi cael eu hatgyfeirio ymlaen at y gwasanaeth - gellir gwneud hyn o adref, neu o un o’r canolfannau brysbennu - ynghyd â thrin cleifion wyneb yn wyneb mewn canolfan gofal sylfaenol, neu yng nghartref y claf.
Ymarferwr Gofal Sylfaenol Brys
Mae’r teitl hwn yn berthnasol i nyrsys, parafeddygon, a gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Mae’r Ymarferwr Gofal Sylfaenol Brys (GSB) yn glinigwr anfeddygol sy’n mynd i’r afael â chleifion yn y gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys. Maent yn ymarferwyr cofrestredig sy’n gweithio’n annibynnol o fewn eu lefel cymhwysedd.
Mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys brysbennu/ymgynghoriad dros y ffôn, ac ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, naill ai mewn Canolfan Gofal Sylfaenol neu ymweliad cartref, gan ddibynnu ar gymhwysedd.
GSB Lefel 5
- Mae’n cyflawni ymgynghoriadau a brysbennu dros y ffôn mewn modd sensitif, yn darparu cyngor a gwybodaeth yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau, wrth ddefnyddio barn broffesiynol ac atgyfeirio at asiantaethau eraill, os yw’n briodol.
- Gyda hyfforddiant a chymhwysedd ychwanegol, gall GSB (5) gyflawni ymgynghoriadau wyneb yn wyneb mewn canolfan gofal sylfaenol ar gyfer mân afiechydon.
GSB Lefel 6
- Mae’n cyflawni ymgynghoriadau wyneb yn wyneb mewn canolfan gofal sylfaenol ar gyfer cleifion â chyflyrau arwahaniaethol neu heb eu diagnosio. Mae’n cynnal asesiadau clinigol ar gyfer cleifion, gan roi diagnosis a thriniaethau, fel y bo’n briodol. Mae’n rhagnodi’n annibynnol neu’n rhoi meddyginiaethau o dan ‘Patent Group Direction (PGD)’. Gall atgyfeirio cleifion at ofal eilaidd neu wasanaethau eraill, fel y bo’r angen.
GSB Lefel 7/8
- Mae’n cyflawni ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ac o bell, sy’n fwy cymhleth, gan ddibynnu ar gymhwysedd. Mae’n rhagnodi meddyginiaethau’n annibynnol.
- Yn unol â modelau ymarfer uwch, bydd y GSB 7/8 yn cyflawni rolau ychwanegol mewn perthynas ag addysg, gwelliant i wasanaethau, a rheolaeth/arweinyddiaeth.
Arweinydd sifftiau clinigol
Mae arweinydd sifftiau clinigol yn allweddol i sicrhau bod y gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys yn gweithredu’n rhwydd ac yn effeithiol mewn ffordd ddiogel yn glinigol.
Maent yn gyfrifol am reoli galwadau trwy’r system a symud adnoddau clinigol, lle y bo’n briodol, i fodloni galwadau’r gwasanaeth.
Fferyllydd
Mae’r fferyllydd yn rhan o’r tîm amlddisgyblaeth sy’n darparu ymgynghoriadau dros y ffôn i gleifion sy’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys.
Maent yn gweithio’n annibynnol i wneud penderfyniadau am y cynlluniau gofal a thriniaethau gorau ar gyfer cleifion. Yn ogystal ag ymgynghoriadau dros y ffôn, mae fferyllwyr yn gallu trin cleifion o bell o fewn eu cwmpas ymarfer, a chefnogi a chynghori clinigwyr eraill ar feddyginiaethau a thriniaethau priodol.
Ymgynghorydd galwadau
Mae gan ymgynghorydd galwadau amrywiaeth eang o gyfrifoldebau ym maes Gofal Sylfaenol Brys, ond ei brif gyfrifoldeb yw asesu anghenion y claf, a chysylltu ag asiantaethau a darparwyr gofal iechyd eraill i sicrhau bod y claf yn cael gofal priodol.
Bydd angen i ymgynghorydd galwdadau feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog i allu cyfathrebu â darparwyr gwasanaethau eraill yn effeithiol, darparu cyngor ar wybodaeth iechyd syml yn unol â pholisiau’r GIG, a chymryd rhan yn y broses adborth y claf ac adborth proffesiynol.
Bydd hefyd yn gyfrifol am reoli unrhyw alwadau heriol a phryderon ynghylch amddiffyn plant, a bydd yn cyfathrebu â darparwyr gwasanaethau eraill am bryderon ynghylch gofal cleifion.
Arweinydd tîm
Mae tîm rheoli’n sicrhau bod y gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys yn rhedeg yn effeithlon ac yn effeithiol, ac mae arweinydd tîm yn rhan allweddol o hynny.
Mae’r arweinydd tîm yn rheoli’r tîm o gynghorwyr iechyd ac ef/hi yw’r prif gyswllt rhwng staff clinigol ac anghlinigol.
Fel arweinydd tîm, maen nhw’n gyfrifol am sicrhau bod y galwadau’n cael eu dosbarthu’n briodol ac mewn modd amserol. Nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw broblemau sy’n codi yn ystod y sifft.
Derbynnydd / Anfonwr
Mae bod yn dderbynnydd yn llawer mwy nag ateb galwadau ffôn a chyfarch cleifion yn unig.
Yn ogystal â bod yn gyfrifol am gadarnhau manylion cleifion, maen nhw’n anfon y galwadau at y canolfannau perthnasol ac yn trefnu trafnidiaeth ar gyfer cleifion a chlinigwyr, lle y bo’n bosibl. Byddan nhw hefyd yn sicrhau bod manylion unrhyw gleifion sy’n dirywio wrth aros am glinigwr yn cael ei gyfleu’n gyflym ac yn effeithiol i un o’r clinigwyr ar y safle.
Mae derbynnydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod digon o stoc yn yr holl ystafelloedd clinigol ac mae hefyd yn cefnogi clinigwyr gyda dyletswyddau priodol eraill.
Gyrrwr
Prif rôl y gyrrwr yw sicrhau bod y clinigwyr yn cyrraedd cartref claf yn ddiogel. Yn ogystal â gyrru’r clinigwr, mae hefyd yn atebol am y cerbyd yn ystod ei sifft a gwneud yn siŵr ei fod yn cynnwys yr holl adnoddau sydd eu hangen i gefnogi’r clinigwr a’r claf.
Efallai y bydd rhaid cael cyswllt wyneb yn wyneb â chleifion yn achlysurol, os bydd angen iddynt weithredu fel hebryngwr ar gyfer y claf.
Parafeddyg
Gall parafeddygon ategu gweddill y tîm gofal sylfaenol, nid mewn gofal acíwt yn unig, ond ymweliadau cartref a dilynol hefyd, a all alluogi cleifion i aros yn eu cartref eu hunain yn hytrach na chael eu derbyn i ysbyty.
Mae gan y parafeddyg arbenigol mewn gofal sylfaenol a brys, sgiliau asesu a rheoli sy’n berthnasol ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys oedolion, plant a menywod beichiog. Mae’r rhain yn sgiliau clinigol craidd, ond wrth i’r parafeddyg arbenigol ddatblygu, efallai y bydd yn datblygu sgiliau ychwanegol yn unol â’r amgylchedd lle mae’n gweithio.