Rydym ni wedi mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, isod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni trwy’r dudalen Cysylltu â ni.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau unigol, gallai effeithio ar eich tâl a’ch pensiwn. Bydd angen i chi gael cyngor annibynnol ar hyn.
Mae disgwyliadau clir ac oriau penodol ar gyfer staff sy’n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys. Nid oes unrhyw waith papur i fynd ag ef adref gyda chi, ac nid oes angen i staff drefnu apwyntiadau dilynol gyda’r cleifion y maen nhw’n eu gweld. Mae staff ym maes Gofal Sylfaenol Brys hefyd yn gweithio oriau penodol, oni bai eu bod nhw wedi cytuno i weithio goramser.
Mae’r math o waith yn amrywiol, gan fod cymysgedd o frysbennu a chyswllt wyneb yn wyneb â chleifion, ac mae newid cyflymdra o’i gymharu â gwaith oriau mewnol arferol. Hefyd, mae cyfle i weithio gyda thimau gwahanol na fyddech yn gweithio gyda nhw fel arfer yn ystod oriau mewnol. Er enghraifft, mae gan feddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd gyfle i weithio gyda’i gilydd, ac ar draws gwahanol ddisgyblaethau.
Bydd hyn yn dibynnu ar y rôl, fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, ni fyddwch yn gweithio ar eich pen eich hun. Mae ein staff yn gweithio mewn timau amlddisgyblaeth, sy’n golygu bod cyfle bob amser i weithio gydag amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar bob lefel, ac mae cefnogaeth ar gael bob amser, pan fyddwch ei hangen.
Mae’r gwaith sy’n gysylltiedig â Gofal Sylfaenol Brys yn cynnwys cyswllt â chleifion y mae arnynt angen gofal brys ac nad ydynt yn gallu aros i’w meddygfa eu hunain i agor, a’u rheoli. Gall hyn naill ai fod dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, gan ddibynnu ar eich rôl.
Fel arfer, disgwylir i feddygon teulu weld un claf bob 15 munud, wyneb yn wyneb, mewn canolfan gofal sylfaenol.
Byddai hyn yn dibynnu ar y rôl. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y rolau ym maes Gofal Brys, yma.
Mae nifer yr oriau y mae disgwyl i chi eu gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys yn dibynnu ar b’un a oes gennych chi gontract neu a ydych chi’n gweithio ar sail sesiynol. Un o fuddion gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, yw’r cyfle i weithio oriau hyblyg, sy’n golygu gweithio oriau sy’n addas ar gyfer eich anghenion chi, a gweithio o gwmpas eich ffordd o fyw.
Mae amrywiaeth o gontractau ar waith.
Os ydych chi’n dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, byddem ni’n gofyn i chi ddewis gweithio'r oriau y gallwch ymroi iddynt yn unig.
Oes, os ydych yn aelod o staff sy'n dod o dan amodau a thelerau'r Agenda ar gyfer Newid.
Efallai y bydd gofyn i chi symud o gwmpas ardal y Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, byddem ni’n ceisio bodloni eich anghenion a’ch lleoliad, os yw’n bosibl.
Mae amrywiaeth o sifftiau’n cael eu cynnig, ac mae rhai ohonynt yn ystod y nos. Fodd bynnag, byddwch chi ond yn gweithio sifftiau nos os byddwch chi wedi cytuno i wneud hynny.
Oes, byddech chi’n cael eu gwahodd i gael cyfweliad ar ôl gwneud cais.
Nac ydyw, nid oes rhaid i chi allu siarad Cymraeg i weithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys, ond mae'r gallu i wneud hynny bob amser yn ddymunol.
Byddwch. Byddwn ni’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n derbyn yr hyfforddiant y mae arnoch ei angen i gyflawni eich rôl ym maes Gofal Sylfaenol Brys. Rydym ni hefyd yn cynnig rhaglen DPP i’ch cefnogi â’ch datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae cyfle i weithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau a dysgu oddi wrth weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn eich tîm.
Mae hyn yn dibynnu ar ba sefydliad rydych chi’n gweithio iddo, ac a oes ganddyn nhw polisi wisg staff ffurfiol.
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Bydd hyn yn dibynnu ar y sefydliad a sut mae’n rheoli ei sifftiau. Os oes angen i ymweld â chleifion yn eu cartrefi yn ystod y nos, byddwn ni’n darparu gyrrwr ar eich cyfer.
Hoffem i bob un o'n cydweithwyr gael sicrwydd gan raddau eu darpariaeth gwasanaeth Cronfa Risg Cymru (WRPS); Fodd bynnag, nid yw'n cwmpasu popeth. Dylid cadw tanysgrifiad corff amddiffyn preifat e.e. MPS/MDU i gwmpasu cynrychiolaeth yn y GMC ac o bosibl ar gyfer unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r heddlu, pa mor annhebygol bynnag y bydd hyn ei angen. Y newyddion da yw y bydd y gorchudd WRPS yn gyffredinol yn rhoi hyd at ostyngiad o 90% yn eich tanysgrifiadau ASAU/MDU a chan y byddai hyn yn dal i fod yn gost didynnu treth, teimlwn ei bod yn orfodol i sicrhau bod yr yswiriant hwn gennych.